Amdanom

Beth yw prif amcanion Menter Aberystwyth?

Gall Menter Aberystwyth ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau adfywio yn y dref a’r ardal gyfagos. Cytunoddd y Bwrdd ar yr amcanion canlynol, gan gymryd camau i weithredu arnynt yn y dyfodol agos:

  • Gweithredu fel eiriolwr a hwyluswr ar gyfer y dref a’r ardal gyfagos.
  • Helpu i reoli a gwella gweithrediad y dref.
  • Hyrwyddo safonau o reoli busnes a gofal cwsmeriaid uwch yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
  • Creu a marchnata delwedd arbennig ar gyfer Aberystwyth a’r ardal gyfagos sy’n seiliedig ar Gymreictod yr ardal a’i nodweddion diwylliannol a rôl y dref fel canolfan sir sy’n ddiddorol, amrywiol a hardd.

Sut y gall Menter Aberystwyth gyflawni ei hamcanion?

Fe fydd Menter Aberystwyth yn cyflawni ei hamcanion trwy ennill cefnogaeth y gymuned, gan ddefnyddio’r gefnogaeth honno i gyfiawnhau ceisiadau am gyllid. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu’r ystod eang o brosiectau a geir yn ein Cynllun Gweithredu. Bydd Menter Aberystwyth hefyd yn nodi ac yn datblygu prosiectau newydd yn flynyddol. Ymysg rhai o’r prosiectau yn ein Cynllun Gweithredu am eleni y mae:

  • Datblygu safle gwe amlwg ar gyfer Aberystwyth a’r ardal gyfagos;
  • Datblygu strategaeth ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal;
  • Gwella canol y dref gydag arwyddion, dehongli, pedestreiddio, trafnidiaeth a pharcio ceir.

Sut yr ariennir Menter Aberystwyth?

Ariennir Menter Aberystwyth gan Gyngor Tref Aberystwyth ac Prifysgol Aberystwyth. Mae’r arian hwn yn bennaf yn mynd i dalu costau cynnal swyddfa a chyflog y Swyddog Datblygu a hynny am gyfnod penodol o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn fe fydd Menter Aberystwyth yn ceisio am arian ychwanegol ar gyfer prosiectau, gan helpu grwpiau a busnesau eraill i wneud hyn hefyd. Bydd Menter Aberystwyth hefyd yn edrych i ymestyn ei chyfnod gweithredu trwy ganfod arian ychwanegol a fydd yn ei galluogi i oroesi’r cyfnod gwreiddiol o dair blynedd. Serch hynny, nid oes modd dosbarthu adnoddau ariannol i fusnesau a grwpiau yn yr ardal.

Sut mae Menter Aberystwyth yn atebol?

Gan fod Menter Aberystwyth yn gwmni Cyfyngedig Trwy Warant y mae’n gweithredu yn sgil ei Femorandwm a’i Erthyglau Cwmni. Mae Menter Aberystwyth hefyd yn atebol i’r partneriaid sydd yn ei hariannu gan roi adroddiadau cyson iddynt ar waith prosiect ac unrhyw drafodion busnes. Caiff cyfrifon y cwmni eu harchwilio’n flynyddol a gellir gwneud cais i gael copïau o’r Cynllun Busnes a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd.

Sut gall Menter Aberystwyth fy helpu?

Yn ogystal â datblygu’r prosiectau penodol sydd wedi eu rhestru yn y Cynllun Gweithredu, gall Menter Aberystwyth hefyd gynorthwyo grwpiau bychain eraill yn yr ardal i ddatblygu eu prosiectau eu hunain, gan gynorthwyo busnesau a grwpiau eraill i ganfod cyfleon cyllido a chyngor.