Y Bwrdd
Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys yr unigolion canlynol, rhai yn cynrychioli ein partneriaid craidd ac eraill sy’n dod ag arbenigedd a phrofiad penodol:
- Y Cynghorydd Ray Quant
Cadeirydd
- Gwasanaethodd Ray yn y Llu Awyr Brenhinol rhwng 1954 a 1994 yn y maes cyfathrebu. Ar ôl gadael y Gwasanaeth dychwelodd i'w gartref yn y Borth gan ddod yn weithgar iawn gyda sefydliadau cymunedol yn lleol. Ray oedd y grym y tu ôl i adeiladu neuadd gymunedol newydd ac ardal gemau amlddefnyddwyr yn y Borth. Bu'n Glerc ar Gyngor Cymunedol y Borth rhwng 1995 a 2002 ac fe'i hetholwyd yn Aelod Lleol dros Ward y Borth yn 2001. Mae wedi gwasanaethu ar Gabinet y Cyngor er 2002 ac ar hyd o bryd mae’n dal portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwaith. Ef yw Is-arweinydd y Cyngor hefyd. Ar hyn o bryd mae Ray yn Gadeirydd ar Gyngor Chwaraeon Ceredigion ac yn cynrychioli Ceredigion ar Gymdeithas Cyngor Chwaraeon Lleol Cymru, ac ef yw'r Trysorydd.
rayquant@btinternet.com
- Louise Amery
Is-gadeirydd a Chynrychiolydd y Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
- Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru, Bangor, mae Louise wedi treulio ymron i 20 mlynedd yn gweithio ar gyfer sefydliadau celfyddydol, yn benodol ym maes marchnata celfyddydau. Mae wedi gweithio yn ystod y 14 mlynedd diwethaf yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, y lleoliad celfyddydol mwyaf a’r mwyaf deniadol yng Nghymru. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae wedi gweithio fel Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae gan Louise gysylltiadau cryf â’r gymuned celfyddydau ledled Cymru ac mae wedi bod yn gadeirydd Grŵp Marchnata Cylchdaith Canolbarth Cymru a Gwyliau Cymru, ynghyd ag eistedd ar baneli ymgynghorol Cyngor Celfyddydau Cymru.
lla@aber.ac.uk
-
- Huw Bates
Ysgrifennydd y Cwmni a arbenigedd cyfreithiol
- Graddiodd Huw yn y gyfraith o Brifysgol Cymru Abertawe lle enillodd MA mewn Troseddeg hefyd. Ar ôl treulio 2 flynedd yn gweithio ac yn teithio dramor bellach mae’n bartner gyda chyfreithwyr Morris & Bates, Aberystwyth. Bu'n Brif Fachgen yn Ysgol Gyfun Penglais a Huw yw Is-lywydd Grŵp Cyfreithwyr Ifanc Gorllewin Cymru, Ysgrifennydd Datblygiad Pêl-droed Iau Ceredigion, ac yn rheolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Bow Street.
huw@morrisbates.co.uk
- Gareth Rowlands
Chynrychiolydd y Clwb Busnes
- Ffarmwr organig yw Gareth sydd wedi ffermio yng Ngheredigion am ddeugain mlynedd. Roedd yn gyd-sylfaenydd ar Rachel’s Dairy sy’n gyflogwr llwyddiannus iawn yn yr ardal, yn gyn-gadeirydd ar Grŵp Strategaeth Organig Cymru ac ar y Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd. Mae'n Aelod o Fwrdd Antur Teifi, aelod o CCET Ceredigion, aelod a Chyn-gadeirydd ar Glwb Busnes Aberystwyth, cymrawd Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol ac yn gymrawd Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n gadeirydd ar Gôr Meibion Aberystwyth ac yn siaradwr Cymraeg.
gareth@brynllys.co.uk
-
- Jim Wallace
Chynrychiolydd Prifysgol Aberystwyth
- Graddiodd Jim o Brifysgol Cymru, Aberystwyth ac mae ganddo MBA o’r Brifysgol Agored. Ef yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Preswyl a Lletygarwch Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Jim brofiad o gynrychioli Prifysgol Aberystwyth a’r sector Addysg Uwch ar amryw o brosiectau twristiaeth a datblygiad economaidd, gan gynnwys Prosiect Datblygiad Twristiaeth Integredig Aberystwyth 1996-2001, Gweithgor Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, a Gweithgor Twristiaeth Ceredigion.
jsw@aber.ac.uk
- Ann Ffrancon
Chynrychiolydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Mae Ann Ffrancon yn byw ym Mlaenplwyf a hi yw Pennaeth Mynediad a Marchnata yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth er Ionawr 2002. Dechreuodd ar ei haddysg bellach yn Aberystwyth ym 1968 ac mae ei gyrfa yn cynnwys llyfrgellyddiaeth, digwyddiadau diwylliannol, ymchwil, marchnata a chyhoeddi. Mae ganddi MScEcon mewn Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Ann yn gyn-aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Penweddig a Chyngor Prifysgol Aberystwyth, ac ar hyn o bryd mae ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Arad Goch ac yn Gadeirydd ar Grŵp Cymunedol Blaenplwyf a sefydlwyd yn 2001.
aff@llgc.org.uk
-
- Dylan Raw Rees
Cynrychiolydd Cyngorau Cymuned
- Mae wedi gweithio yn y sector amaethyddol am dros 25 mlynedd. Dychwelodd i’r Brifysgol yn 2001 er mwyn astudio ar gyfer gradd meistr mewn busnes. Yno dysgodd bwysigrwydd bod yn hyblyg i newid, gyda’r angen i werthuso rhesymoli bob amser a gweithredu syniadau arfer gorau. Gan fod addysg yn broses barhaus yn yr amgylchedd gwaith sy’n gyson newid cred fod gan fwrdd cyfarwyddwyr Menter Aberystwyth y rhinweddau i fod yn grŵp o unigolion dysgu blaengar, sydd â’r gallu i fynd i’r afael a datblygu strategaeth y cynllun busnes hwn. Ymhlith ei ddiddordebau eraill mae; Llywydd a Chyn-gadeirydd ar Round Table Aberystwyth, Cyn-gadeirydd a bellach yn aelod gweithredol ar Gyngor Cymunedol Genau’r Glyn. Mae’n gyn-lywydd Myfyrwyr Coleg Amaethyddol Cymru.
dylanrr@hotmail.com
- Cyril Baker
Cynrychiolydd Siambr Fasnach Aberystwyth
-
cyril-baker@talk21.com
-
- Lis Owen-Jones
Cynrychiolydd y Sector Busnes
- lis@cambrian-news.co.uk