Visit Aberystwyth
Menter Aberystwyth

Partneriaeth adfywio ar gyfer Aberystwyth a'r ardal

Amdan Menter Aberystwyth

Beth yw prif amcanion Menter Aberystwyth?
Sut y gall Menter Aberystwyth gyflawni ei hamcanion?
Sut yr ariennir Menter Aberystwyth?
Sut mae Menter Aberystwyth yn atebol?
Sut gall Menter Aberystwyth fy helpu?

Beth yw prif amcanion Menter Aberystwyth?

Gall Menter Aberystwyth ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau adfywio yn y dref a'r ardal gyfagos. Cytunoddd y Bwrdd ar yr amcanion canlynol, gan gymryd camau i weithredu arnynt yn y dyfodol agos:

Cafodd Cynllun Busnes (PDF 232Kb) ei ddatblygu a'i fabwysiadu gan Menter Aberystwyth sy'n esbonio'n fanwl sut mae'r cwmni'n gweithredu. O fewn y Cynllun Busnes ceir Cynllun Gweithredu manwl yn llawn o brosiectau i'w datblygu yn seiliedig ar yr amcanion uchod. Mae'r Cynllun Gweithredu hefyd yn nodi'r gwaith ymarferol y bydd y Fenter yn ei gyflawni yn ystod tair blynedd gyntaf ei bodolaeth. Yn ogystal caiff syniadau ar gyfer prosiectau newydd eu trafod a'u datblygu, a byddant yn cael eu cynnwys yng Nghynlluniau Blynyddol Menter Aberystwyth.

Top

Sut y gall Menter Aberystwyth gyflawni ei hamcanion?

Fe fydd Menter Aberystwyth yn cyflawni ei hamcanion trwy ennill cefnogaeth y gymuned, gan ddefnyddio'r gefnogaeth honno i gyfiawnhau ceisiadau am gyllid. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu'r ystod eang o brosiectau a geir yn ein Cynllun Gweithredu. Bydd Menter Aberystwyth hefyd yn nodi ac yn datblygu prosiectau newydd yn flynyddol. Ymysg rhai o'r prosiectau yn ein Cynllun Gweithredu am eleni y mae:

Maes o law hoffai Menter Aberystwyth ddatblygu prosiect mewn partneriaeth â'r holl Gynghorau Cymuned, gan ymgynghori â phob Cyngor Cymuned yn ei dro.

Top

Sut yr ariennir Menter Aberystwyth?

Ariennir Menter Aberystwyth gan Gyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Cymru Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Clwb Busnes Aberystwyth a Phecyn Adfywio Cymunedol Awdurdod Datblygu Cymru. Mae'r arian hwn yn bennaf yn mynd i dalu costau cynnal swyddfa a chyflog y Swyddog Datblygu a hynny am gyfnod penodol o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn fe fydd Menter Aberystwyth yn ceisio am arian ychwanegol ar gyfer prosiectau, gan helpu grwpiau a busnesau eraill i wneud hyn hefyd. Bydd Menter Aberystwyth hefyd yn edrych i ymestyn ei chyfnod gweithredu trwy ganfod arian ychwanegol a fydd yn ei galluogi i oroesi'r cyfnod gwreiddiol o dair blynedd. Serch hynny, nid oes modd dosbarthu adnoddau ariannol i fusnesau a grwpiau yn yr ardal.

Top

Sut mae Menter Aberystwyth yn atebol?

Gan fod Menter Aberystwyth yn gwmni Cyfyngedig Trwy Warant y mae'n gweithredu yn sgil ei Femorandwm a'i Erthyglau Cwmni. Mae Menter Aberystwyth hefyd yn atebol i'r partneriaid sydd yn ei hariannu gan roi adroddiadau cyson iddynt ar waith prosiect ac unrhyw drafodion busnes. Caiff cyfrifon y cwmni eu harchwilio'n flynyddol a gellir gwneud cais i gael copïau o'r Cynllun Busnes a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd.

Top

Sut gall Menter Aberystwyth fy helpu?

Yn ogystal â datblygu'r prosiectau penodol sydd wedi eu rhestru yn y Cynllun Gweithredu, gall Menter Aberystwyth hefyd gynorthwyo grwpiau bychain eraill yn yr ardal i ddatblygu eu prosiectau eu hunain, gan gynorthwyo busnesau a grwpiau eraill i ganfod cyfleon cyllido a chyngor.

Top

Aberystwyth at night Ynys Las Beach Aberystwyth Prom